Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 Senedd, a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Llun, 10 Gorffennaf 2023
Amser:
12.30 -
17.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13401
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Sophie Brighouse, Llywodraeth Cymru James Gerard, Llywodraeth Cymru Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ynni: Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
3 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
4.1 SL(6)366 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Ffurf Awdurdodiadau Dros Dro) (Cyfansoddion Cobalt(II)) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
5.1 SL(6)365 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Y Bil Seilwaith (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
7.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu Annomestig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Bil Deddf Hawliau’r DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidogion at y Llywydd.
7.6 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) Llywodraeth Cymru ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.7 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Amserlen Ddrafft Gyllideb 2024-25
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog.
7.8 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ynni: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
10 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
11 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i ystyried mân newidiadau y tu allan i'r cyfarfod.
12 Memorandwa Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2): Adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
13 Adroddiad monitro
Nododd y Pwyllgor ei adroddiad monitro diweddaraf.
14 Ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall: Galw am dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor ei dystiolaeth ddrafft i ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin i Allu Datganoli yn Whitehall.
15 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i geisio rhagor o
wybodaeth am y cytundeb cyntaf a thynnu sylw pwyllgorau perthnasol
Senedd Cymru a Senedd y DU at y ddau gytundeb.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments
16 Trafodaeth y Pwyllgor ar Filiau Cydgrynhoi
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ei drafodaeth o’r eitem hon tan gyfarfod diweddarach.